COLLECTED BY
Organization:
Internet Archive
These crawls are part of an effort to archive pages as they are created and archive the pages that they refer to. That way, as the pages that are referenced are changed or taken from the web, a link to the version that was live when the page was written will be preserved.
Then the Internet Archive hopes that references to these archived pages will be put in place of a link that would be otherwise be broken, or a companion link to allow people to see what was originally intended by a page's authors.
The goal is to
fix all broken links on the web.
Crawls of supported "No More 404" sites.
This is a collection of web page captures from links added to, or changed on, Wikipedia pages. The idea is to bring a reliability to Wikipedia outlinks so that if the pages referenced by Wikipedia articles are changed, or go away, a reader can permanently find what was originally referred to.
This is part of the Internet Archive's attempt to
rid the web of broken links.
The Wayback Machine - https://web.archive.org/web/20170703151357/https://cy.wordpress.org/
Croeso

Mae WordPress yn blatfform cyhoeddi personol sy’n berffaith ar gyfer creu gwefannau a blogiau deniadol sy’n llawn nodweddion defnyddiol. Mae WordPress ar gael fel meddalwedd rydd, am ddim, ac yn y Gymraeg.
Os hoffech chi ddewis thema sydd ar gael yn Gymraeg, mae’r rhai cyntaf o dan y pennawd Poblogaidd at dudalen Themâu wedi eu cyfieithu.
Hefyd, mae rhestr gynhwysfawr o themâu ac ategion yn Gymraeg ar gael ar wefan Hedyn.
Os hoffech chi greu gwefan neu flog Cymraeg yn ddi-drafferth, dyma’r pecyn i chi!
Lawrlwytho
Mae modd lawrlwytho WordPress drwy glicio ar y ddolen sydd ar y dde mewn glas.
Bydd angen cofrestru gyda Lletywr Gwe er mwyn cael lle i osod WordPress ar y we, a llwytho’r pecyn hwn i fyny i’r wefan drwy FTP.
Gweler yr adran Sut mae mynd ati isod am gyfarwyddiadau cryno sy’n disgrifio sut i osod y pecyn.
Mae dogfennaeth estynedig i’w gael ond nid yw’r rhain eto ar gael yn y Gymraeg.
Sut mae mynd ati
Mae WordPress yn nodedig am fod yn hawdd a chyflym iawn i’w osod, gyda’r broses osod enwog yn para pum munud yn unig!
Dyma gyfarwyddiadau cryno:
- Y cam cyntaf yw dewis Lletywr Gwe (Web Host) er mwyn cael rhywle i osod y wefan WordPress.
- Yn ail, lawrlwythwch becyn WordPress ac yna defnyddio FTP i’w osod ar y gweinydd mae eich Letywr Gwe wedi ei ddarparu. Byddwch yn synnu mor hawdd yw creu gwefan gyda chymaint o nodweddion defnyddiol.
- Darllenwch y ddogfennaeth er mwyn dod yn arbenigwr WordPress go-iawn. Byddwn ni’n ceisio ychwanegu at y ddogfennaeth Gymraeg yn fuan.
Os ydi hyn i gyd yn swnio’n rhy gymhleth, mae WordPress.com yn darparu gwefannau sylfaenol wedi’u lletya yn rhad ac am ddim ac yn Gymraeg. Mae’n fan cychwyn da ar gyfer dechreuwyr, ac mae modd symud draw i ddefnyddio WordPress.org yn hawdd wrth i’ch hyder ac anghenion gynyddu.