Breuddwyd
Gwedd
| Math | proses meddyliol, digwyddiad biolegol |
|---|---|
| Dynodwyr | |
| Freebase | /M/0c673 |
| Thesawrws y BNCF | 9043 |
Mae breuddwyd yn gyfres o ddelweddau, synau neu emosiynau sy'n mynd drwy'r meddwl yn ystod cwsg. Nid yw cynnwys a phwrpas breuddwydion yn cael eu deall yn llawn, er eu bod yn wrthrych dyfalu a diddordeb trwy gydol hanes.
Ystyr ddiwylliannol breuddwydio
[golygu | golygu cod]Drwy gydol hanes, mae pobl wedi ceisio darganfod ystyr mewn breuddwydion neu dewinio trwy freuddwydion. Mae breuddwydion wedi cael eu disgrifio'n ffisiolegol fel ymateb i brosesau nerfol yn ystod cwsg, yn seicolegol fel myfyrdodau yr isymwybod, ac yn ysbrydol fel negeseuon gan duwiau, yr ymadawedig, rhagfynegiadau o'r dyfodol neu o'r enaid.
