Castell Neuschwanstein
| Math | palas, castell, château, atyniad twristaidd, amgueddfa |
|---|---|
| Sefydlwyd | |
| Daearyddiaeth | |
| Rhan o'r canlynol | The Palaces of King Ludwig II of Bavaria: Neuschwanstein, Linderhof, Schachen and Herrenchiemsee |
| Sir | Schwangau |
| Gwlad | |
| Arwynebedd | 0.85 ha, 2,114 ha |
| Uwch y môr | 940 metr |
| Cyfesurynnau | 47.557489°N 10.749442°E |
![]() | |
| Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Adfywiad Romanésg, yr Adfywiad Gothig |
| Perchnogaeth | Bafaria |
| Statws treftadaeth | architectural heritage monument in Bavaria, rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
| Sefydlwydwyd gan | Ludwig II of Bavaria |
| Cysegrwyd i | Richard Wagner |
| Manylion | |
| Deunydd | bricsen, calchfaen, tywodfaen |
Mae Castell Neuschwanstein (Almaeneg: Schloss Neuschwanstein) yn balas adfywiad Romanésg 19g ar fryn creigiog uwchben pentref Hohenschwangau ger Füssen yn ne-orllewin Bafaria, Yr Almaen. Roedd y palas wedi ei gomisiynu gan Ludwig II o Bafaria fel encil ac fel teyrnged i Richard Wagner. Yn groes i'r gred gyffredin, talodd Ludwig am y palas allan o'i ffortiwn bersonol a benthyca helaeth, nid ag arian cyhoeddus Bafaria.
Bwriad y palas oedd fel lloches bersonol ar gyfer y brenin meudwyaidd, ond fe'i hagorwyd i'r cyhoedd yn syth ar ôl ei farwolaeth yn 1886. Ers hynny mae dros 60 miliwn o bobl wedi ymweld â Chastell Neuschwanstein. Mae mwy na 1.3 miliwn o bobl yn ymweld bob blwyddyn, gyda hyd at 6,000 y dydd yn yr haf. Mae'r palas wedi ymddangos yn amlwg yn nifer o ffilmiau ac oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer castell Sleeping Beauty yn Disneyland ac yn ddiweddarach, strwythurau tebyg.

