Julia Gillard
| Julia Gillard | |
|---|---|
| Ganwyd | Julia Eileen Gillard 29 Medi 1961 y Barri |
| Dinasyddiaeth | |
| Addysg | Bagloriaeth yn y Gyfraith |
| Alma mater | |
| Galwedigaeth | gwleidydd, cyfreithiwr |
| Swydd | Prif Weinidog Awstralia, Dirprwy Brif Weinidog Awstralia, Minister for Education, Minister for Employment and Workplace Relations, Gweinidog dros Gymdeithas Gynhwysol (Awstralia), Rheolwr Busnes yr Wrthblaid yn y Tŷ, Cadeirydd-mewn-Swydd y Gymanwlad, Aelod o Tŷ'r Cynrychiolwyr, Awstralia |
| Cyflogwr | |
| Plaid Wleidyddol | Plaid Lafur Awstralia |
| Tad | John Oliver Gillard |
| Partner | Tim Mathieson |
| Gwobr/au | Gwobr 100 Merch y BBC, Cydymaith Urdd Awstralia, Doethor Anrhydeddus Prifysgol Brwsel, Grand Cordon of the Order of the Rising Sun, doethuriaeth er anrhydedd, Honorary Fellow of the Learned Society of Wales |
| Gwefan | http://juliagillard.com.au/ |
| llofnod | |
Gwleidydd o Awstralia yw Julia Eileen Gillard (ganwyd 29 Medi 1961). Roedd hi'n aelod o Blaid Lafur Awstralia. Rhwng 24 Mehefin 2010 a 26 Mehefin 2013 roedd yn Brif Weinidog Awstralia. Cyn hynny, bu'n Ddirprwy Arweinydd y Blaid Lafur.
Cafodd ei geni yn y Barri, yng Nghymru, ym 1961, ond symudodd ei theulu i Adelaide, De Awstralia ym 1966.
Mae hi'n weriniaethwraig o argyhoeddiad. Yn Awst 2010, yn ystod yr ymgyrch etholiad cyffredinol, cyhoeddodd y dylai Awstralia droi'n weriniaeth ar ôl marwolaeth Elisabeth II, brenhines y Deyrnas Unedig.[1] Ar ôl colli'r bleidlais am arweinydd y Blaid Lafur, ymddiswyddodd Gillard fel Prif Weinidog ym mis Mehefin 2013.[2] Gadawodd hi gwleidyddiaeth bryd hynny.
Yn Ebrill 2021, daeth Gillard yn gadeirydd y Wellcome Trust.[3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Australia's Gillard backs republic after Queen's death, Newyddion y BBC, 17 Awst 2010.
- ↑ "Labor leadership live: Kevin Rudd returns, Julia Gillard loses support of partyroom" (yn Saesneg). News.com.au. 26 Mehefin 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 16 Hydref 2013. Cyrchwyd 28 Mehefin 2013.
- ↑ "Julia Gillard appointed as next Chair of Wellcome | News". Wellcome (yn Saesneg). 14 Mai 2020. Cyrchwyd 20 Ebrill 2021.