Teigr
Gwedd
| Teigr | |
|---|---|
| Dosbarthiad gwyddonol | |
| Teyrnas: | Animalia |
| Ffylwm: | Chordata |
| Dosbarth: | |
| Urdd: | Carnivora |
| Teulu: | Felidae |
| Genws: | Panthera |
| Rhywogaeth: | P. tigris |
| Enw deuenwol | |
| Panthera tigris (Linnaeus, 1758) | |
Mamal yn perthyn i'r teulu Felidae (cathod) yw teigr. Cigysydd yw'r teigr ac mae ganddo grafangau a dannedd miniog. Mae'n un o bedwar rhywogaeth yn y genws Panthera. Y mwyaf cyffredin o'r is-rywogaethau yw Teigr Bengal.
Ystyrir y Teigr yn rhywogaeth mewn perygl, oherwydd hela a dinistrio fforestydd. Defnyddir rhannau o'r teigr mewn moddion Tsieineaidd traddodiadol.
Is-rywogaethau
[golygu | golygu cod]- Teigr Indo-Tsieina (Panthera tigris corbetti) - Cambodia, Laos, Fietnam, Maleisia, Myanmar, Tsieina a Gwlad Tai
- Teigr Bengal (Panthera tigris tigris) - Bangladesh, Bhutan, India, Nepal a Tsieina
- Teigr De China (Panthera tigris amoyensis) - canolbarth a gorllewin Tsieina
- Teigr Siberia (Panthera tigris altaica) - a elwir weithiau Teigr Amur; Tsieina, Gogledd Corea, dwyrain Rwsia
- Teigr Sumatera (Panthera tigris sumatrae) - ar ynys Sumatera yn unig
- Teigr Malaya (Panthera tigris jacksoni) - ar orynys Malaya
